Hanes Ysgol Llanegryn.
Mae Ysgol Llanegryn yn un o'r ysgolion hynaf yng Nghymru. Agorwyd hi yn 1659 oherwydd i Hugh Owen, Talybont, yn y dyddiau hynny deimlo'r angen am sefydlu ysgol i roi addysg i'w berthnasau a'i gymdogion. Yn ei ewyllys ar y 18fed o Orffennaf, 1650, trefnodd fod £400 i fynd tuag at sefydlu ysgol rydd am byth i blant plwyf Llanegryn a chwmwd Talybont. Yr oedd yr athro i fod yn berson graddedig o un o'r Prifysgolion, ac yn gymwys i ddysgu Groeg a Lladin. Roedd Ysgol Llanegryn yn Ysgol Ramadeg enwog iawn yn ei dydd a symudai nifer o'r disgyblion oddi yno i golegau Caergrawnt a Rhydychen. Yn ôl y clasur, "Hanes Plwyf Llanegryn" gan William Davies, tad yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, sy'n gyn-ddisgybl o'r ysgol, "mae'n wybyddus i Ellis Wynne o Lasynys dynnu ei fab o Ysgol Caer a'i symud i Lanegryn, ac ohoni aeth i Goleg yr Iesu Rhydychen".
Prifathro cyntaf yr ysgol yn 1659 oedd William Bayley a benodwyd yn glerigwr y plwyf y flwyddyn flaenorol. Ym mysg y rhestr faith o benaethiaid er hynny gwelir cryn amrywiaeth gan gynnwys penodiad Sais uniaith o'r enw John Smith yn 1884. Un o benaethiaid enwocaf yr ysgol yn y cyfnod diweddar oedd y Prifardd John Evans a enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, sef yn eisteddfodau Ystradgynlais ac Aberystwyth. Penodwyd ef yn 1941 a gwasanaethodd hyd y pumdegau cynnar. Ysbrydolwyd, yn rhannol, un o'i awdlau buddugol ar y testun "Dwylo", gan grefftwaith y groglofft enwog a welir yn Eglwys y Santes Fair a Sant Egryn gerllaw'r ysgol.

(Hawlfraint - Nan Griffiths)
Yn ôl William Davies eto, "erbyn 1845 roedd yr hen ysgol a thy'r ysgol wedi dadfeilio'n arw a daeth codi ysgol a thy newydd yn faterion pwysig i'r ymddiriedolwyr. Aed ati ar unwaith i adeiladu ysgol newydd, ac ail-agorwyd hi yn nechrau'r flwyddyn 1847, a chodwyd ty i'r athro'n fuan ar ôl codi'r ysgol. Mynychid yr ysgol gan yn agos i gant o blant , a deuent o dri phlwyf, Llanegryn, Celynnin a Llanfihangel-y-Pennant".
Daeth yr ysgol o dan ofal Awdurdod Addysg Meirionnydd yn 1914 ac Awdurdod Addysg Gwynedd yn 1974 ond deil i gael ei goruchwylio gan y Comisiwn Elusennau.

(Hawlfraint Nan Griffiths)
Erbyn heddiw, un o ysgolion bychain Gwynedd yw Ysgol Llanegryn gyda rhyw ddeg-ar-hugain o blant a dau o athrawon llawn amser. Bychan neu beidio, saif ar un o lecynnau godidocaf Cymru uwchlaw plasty hynafol a hanesyddol Peniarth a dyffryn hardd yr afon Dysynni.